Dy babell Di mor hyfryd yw, O Arglwydd Dduw y lluoedd; Mynych chwennychais weled hon, Gan mor dra thirion ydoedd. Y man bôst Ti, boed fryn neu fro, Sydd gyflawn o ddyddanwch; Yn dy gynteddau'n wastad mae, Oes, fôr didrai o heddwch. Fy enaid flysia fyn'd ar frys I'th gyssegr-lys yn hylwydd; Mae'm calon bach, a'm cnawd bob cam Yn gwaeddi am yr Arglwydd. Am dd'od i'th wydd 'rwyf nos a dydd, Fel hydd lluddedig gwirion, A red dan frefu 'mlaen bob cam I ymofyn am yr afon. O! dwg fy enaid llesg i'r lan, I'r man 'r wyt Ti'n preswylio; Wrth deithio'r anial mawr yn hir 'R wyf wedi gwir ddiffygio.
1 : Edmwnd Prys 1544-1623
Tonau [MS 8787]:
gwelir: |
Thy tent, how delightful it is, O Lord God of the hosts; Often I desired to see this, Because of how amiable it was. The place thou art, be it hill or vale, Is full of comfort; In thy courts constantly there is, Yes, an unebbing sea of peace. My soul craves to go hurriedly Into thy sanctuary successfully; My little heart and my flesh every step, are Shouting for the Lord. Wanting to come into thy presence I am, night and day, Like an exhausted, innocent, hind, Which runs bleating forward every step To seek for the river. O bring my fainting soul up To the place where Thou art residing; While long travelling the great desert I am truly tired. tr. 2015 Richard B Gillion |
|